Des de l'escola Ysgol Craig yr Wylfa d' Aberystwyth, al País de Gal-les (Regne Unit) ens han enviat un poema de bon desitg, (goodwill). El dia 18 de may, aquesta escol juntament amb altres, participa en l'elaboració d'un desig de bona voluntat que envia a diferents escoles d'arreu del Món.
Amb la participació al projecte Comenius, els hem pogut coneixer, i aquest cop ens han enviat el seu desitg de bona voluntat.
La data del 18 de may no és fortuïta ni al.leatòria ja que coincideix amb la commemoració de l'obertura de la Primera Convenció Mundial per la Pau a la Haya, l'any 1899.
Aquest és el text original en gal.lès (Welsh) i després el podreu llegir en català, tal com ens l'han enviat.
Neges Heddwch ac Ewyllys Da gan Ieuenctid Cymru i Ieuenctid y
Byd
Tybed sut sŵn yw sŵn chwiban cadfridog?
A sut sŵn yw gwich llygoden fawr?
Tybed sut arogl yw arogl bwled?
A chyrff mewn ffos? A beth am nwy?
Tybed sut mae llaw yn crynu cyn saethu?
Sut deimlad yw pwyso botwm y bom?
A’i chlywed yn hedfan uwchben?
Tybed beth yw’r ofn yng nghalon rhieni
milwr?
Beth yw blas galar am ffrind?
Tybed sut mae mesur y golled?
Fesul 16 miliwn? Y rhyfel byd cyntaf.
Fesul 50 miliwn? Yr ail ryfel byd.
Y trydydd? Tybed?
Tybed sut fyddai bywyd heb ryfel?
A thybed sut flas sydd ar heddwch?
Sut sŵn yw sŵn tangnefedd? Sut arogl?
A thybed pryd y daw pobl i weld trwy’r
celwyddau a phryd y daw
casineb i ben?
A phwy a ddaw i roi cymod yn ein byd?
Tybed ai ti?
Ai fi?
Tybed?
Cred ieuenctid Cymru y gall pobl y byd ddatrys eu problemau
heb drais, ac yn 2014, gofynna’r neges hon i arweinwyr y byd gymodi â’i gilydd
a dilyn ffordd heddwch.
No comments:
Post a Comment